Menu
Home Page

Gelli Fanadlog

Dysgu Gartref Wythnos 13 / Home Learning Week 13

6.7.20 - 10.7.20

Wythnos Mabolgampau / Sports Week
 

 

Gweithgareddau'r wythnos / This week's activities

Sillafu / Spelling

Dysgu Gartref Wythnos 12 / Home Learning Week 12

29.6.20 - 3.7.20

Wythnos Natur Lleol / Local Nature Week

Gweithgareddau'r Wythnos / This Week's Activities

Sillafu / Spelling

Dysgu Gartref Wythnos 11 / Home Learning Week 11

22.6.20 - 25.6.20

Wythnos Rhyfeddodau'r Byd / Wonders of the World Week

 

Dydd Gwener 26.6.20 

Bore da!

Gwener Gwych hapus i chi gyd! Am ddiwrnod ansbaradigaethus ddoe, gweithioch chi yn wych ac roedd y tywydd yn hyfryd πŸ‘ŒπŸ» Beth yw eich cynlluniau heddiw? Rydw i’n bwriadu gwneud bach o goginio a phobi prynhawn ‘ma.. Cacen banana a tharten caws a sbigoglys πŸ˜‹ cofiwch i ymuno yn ein google meet Gwener Gwych heddiw am 10 o’r gloch am bach o hwyl a sbri 😁
 

Happy Friday to you all!  What a brilliant day yesterday, you all worked very hard and the weather was lovely πŸ‘ŒπŸ» What are your plans today? I think I’m going to do some cooking and baking this afternoon.. banana cake and a cheese and spinach tart πŸ˜‹ Please remember to join our Feel Good Friday google meet at 10am for some fun and laughter 😁

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

 

Dydd Iau 25.6.20

Bore da i chi gyd!

 

Sut ydych chi heddiw? Mwynheuoch chi mas yn y tywydd hyfryd ddoe? Mae hi’n braf ac yn boeth iawn eto heddiw felly cadwch yn ddiogel yn yr haul 🌞 Treuliais fy niwrnod yn yr ysgol ddoe er mwyn sicrhau bod popeth yn barod i chi wythnos nesaf, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i weld chi gyd 😊 Fe welai chi gyd cyn bo hir ar google meet.

 

How are you today? Did you enjoy yourselves out in the lovely weather yesterday? It’s going to be another sunny and very hot day today so please be careful and keep safe if you’re out in the sun 🌞 As you know, I spent my day at school yesterday getting prepared to welcome you back next week, I can’t wait to see you all 😊 I’ll see you all shortly on google meet.

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor


Dydd Mercher 24.6.20

Bore da Gelli Fanadlog!

 

Rydym yn ffodus iawn unwaith eto gyda'r tywydd heddiw felly sicrhewch eich bod chi'n treulio amser tu fas yn yr ardd🌞 Cofiwch ni fydd google meets heddiw oherwydd rydw i'n brysur gyda chyfarfodydd a pharatoi tuag at weld nifer ohonoch chi wythnos nesaf. Dydw i methu aros i groesawi chi nôl i'r ysgol. Cofiwch i ddanfon unrhyw gwaith ataf a byddaf yn ymateb yn ystod y diwrnod.

 

We're very lucky with the weather again today, so make sure you spend some time outside in the garden 🌞 Please remember there won't be google meets today as I'm busy with meetings and preparing everything ready to see some of you next week. I can't wait to welcome you back to school. Please remember to send any work to me and I'll respond throughout the day.

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

 

Dydd Mawrth 23.6.20
Bore da pawb!

 

Gobeithio bod pawb yn iawn ac yn barod am ddiwrnod braf yn yr haul🌞 Diolch yn fawr iawn i'r nifer fawr ohonoch oedd wedi danfon gwaith ataf ddoe, dal ati 😁 Ar gyfer ein google meets heddiw ydych chi'n fodlon dod â phensil/pen a phapur os gwelwch yn dda.

 

I hope you're all ok and ready for a lovely day in the sun🌞 Thank you very much to those of you who sent me work yesterday, keep up the good work 😁 For our google meets today could you please bring a piece of paper and a pen/pencil.

 

Diolch,

Miss Bloor

 

Dydd Llun 22.6.20

Bore da Gelli Fanadlog!

Gobeithio cawsoch chi benwythnos hyfryd! Mwynheuais i ddathlu fy mhenblwydd ar ddydd Sadwrn gyda barbeciw yn yr ardd. Sut ydych chi? Wnaethoch chi wneud unrhywbeth diddorol? Ein thema yr wythnos hon ydy 'Rhyfeddodau'r Byd', felly byddwch yn darganfod nifer o wybodaeth diddorol am adeiladau o amgylch y byd. Byddaf yn trafod gweithgareddau'r wythnos am 10 o'r gloch felly cofiwch i ymuno.

 

I hope you all had a lovely weekend! I enjoyed celebrating my birthday on Saturday with a barbeque in the garden. How are you all? Did you get up to anything interesting? Our theme this week is 'Wonders of the world', so you will be discovering lots of interesting facts about monuments from around the world. I will be discussing this week's activities in more detail at 10am, so please remember to join.

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

Gweithgareddau'r Wythnos / This week's activities

Gweithgareddau dyddiol / Daily activities

Dysgu Gartref Wythnos 10 / Home Learning Week 10

15.6.20 - 19.6.20

 

Dydd Iau 18.6.20

Bore da i chi gyd😁

Wel am fore diflas a gwlyb! Clywsoch chi'r mellt a tharanau neithiwr? Gobeithio bydd y tywydd yn gwella dros y diwrnodau nesaf! Treuliais fy niwrnod yn yr ysgol ddoe, roedd hi'n braf iawn cael bod nôl yn ein dosbarth unwaith eto 😊

Cofiwch am eich google meets y bore 'ma, welai chi cyn hir.

 

What a miserable and wet morning! Did you hear the thunder and lightening last night?

I hope the weather improves over the next few days! As you know I spent my day in school yesterday, it was lovely to be back in our class once again 😊

Please remember to join the google meets this morning, I'll see you shortly.

 

Dydd Mercher 17.6.20
Shwmae Gelli Fanadlog! 😊

 

Sut ydych chi heddiw? Ydych chi wedi llwyddo i gwblhau her yn wythnos ac arbed dΕ΅r eto? Rydw i’n mynd i’r Ysgol eto heddiw felly rydw i’n gyffrous iawn i weld ein dosbarth a staff yr Ysgol. Welai chi cyn bo hir ar google meet.

 

How are you all today? Have you managed to complete the weekly challenge and save water yet? I’m going to school again today so I’m very excited to see our class and all the staff. I’ll see you all shortly on google meet. 

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

 

Dydd Mawrth 16.6.20

Bore da i chi gyd😁

 

Gobeithio cawsoch chi ddechreuad da i'r wythnos ddoe, gwelais fod nifer ohonoch chi wedi bod wrthi yn cwblhau'r gweithgareddau felly da iawn chi. Cofiwch am ein google meet y bore 'ma, edrychwch ar google calendar am eich amser penodol

 

I hope you all had a good start to the week yesterday, I saw that many of you had been busy completing the activities, well done to you all. Please remember our google meet this morning, look at your google calendar for your specific time. 

 

Dydd Llun 15.6.20

 

Bore da Gelli Fanadlog!

Gobeithio cawsoch chi benwythnos hyfryd yn mwynhau gyda'r teulu. Braf yw cael gweld yr haul yn tywynnu y bore 'ma unwaith eto!🌞 Cofiwch i edrych ar google calendar am eich meets yr wythnos hon. Ein thema'r wythnos hon yw 'Cefnforoedd y Byd' felly mae nifer o weithgareddau yn seiliedig ar y môr, a byddwn yn trafod rhain mewn mwy o fanylder yn ein google meet bore 'ma. Eich her ar gyfer yr wythnos bydd i weld faint o ddΕ΅r fedrwch chi arbed yn ystod yr wythnos, er enghraifft diffodd y tap tra eich bod chi'n brwsio dannedd. Tybed pwy fydd yn arbed y mwyaf o ddΕ΅r? Cadwch gofnod o beth rydych wedi gwneud a gallwn ni cymharu ar ddydd Gwener.

 

I hope you all had a lovely weekend with your families. It's a pleasure to see the sun shining this morning!🌞 Please remember to look at your google calendar for the times of your meets this week. Our theme this week is 'World Oceans' therefore there are lots of different activities based on the sea, and we will be discussing these in more detail in our meet this morning. Your challenge for the week is to save as much water as possible, for example turning the tap off when you're brushing your teeth. I wonder who will save the most water? Keep a note of everything you do and we can compare on Friday.

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

Gweithgareddau'r wythnos / This week's activities

Sillafu / Spelling

Her yr wythnos / Daily challenge
Faint o ddΕ΅r fedrwch chi arbed yr wythnos hon?
How much water can you save throughout the week?

Dysgu Gartref Wythnos 9 / Home Learning Week 9

8.6.20 - 12.6.20


Dydd Gwener 12.6.20
Bore da a Gwener Gwych hapus i chi gyd! ⭐

Mae gen i her bach gwahanol i chi heddiw... fedrwch chi ddyfalu pa aelodau o staff sydd yn y lluniau? Cawsom ni lawer o hwyl neithiwr yn ceisio dyfalu pwy yw pwy 🀣 Cofiwch am ein google meet dosbarth cyfan am 10 o’r gloch.

 

Good morning and a happy Feel Good Friday to you all! ⭐

I have a different challenge for you today... can you guess which member of staff is in each photo? We had lots of fun guessing who’s who last night 🀣 Please remember our whole class google meet at 10am.

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

 

 

 

Dydd Iau 11.6.20
Bore da i chi gyd!

Gobeithiaf eich bod chi gyd yn iawn 😊 Unwaith eto roedd eich ymdrechion ddoe yn rhagorol felly da iawn chi! 🌟 Cofiwch mae’r google meets nôl i’r bore heddiw, felly welai chi cyn hir.

I hope you’re all ok 😊 Yet again, your efforts yesterday were fantastic, well done to you all 🌟 Remember our google meets are back to the morning today, so I shall see you all shortly.

 

Dydd Mercher 10.6.20 

Bore da pawb πŸ˜€

Wel dyma ni wedi cyrraedd canol yr wythnos yn barod, mae’r wythnosau yn hedfan! Diolch yn fawr iawn i’r nifer fawr ohonoch am ymuno ddoe yn y sesiynau darllen, roeddech chi’n wych🌟
Cofiwch mae’r sesiynau heddiw y prynhawn yma, edrychwch ar google calendar am yr amseroedd.

Well here we are at the middle of the week already, these weeks are flying by! Thank you very much to those who joined the reading sessions yesterday, you were fantastic 🌟
Please remember today’s session will be this afternoon, have a look at your google calendar if you’re unsure of the time.


Hwyl am nawr,
Miss Bloor

 

Dydd Mawrth 9.6.20 
 

Bore da Gelli Fanadlog!

 

Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn y bore 'ma. Roedd hi'n braf iawn cael siarad gyda nifer fawr ohonoch chi ddoe ac i weld pa mor galed rydych chi wedi bod yn gweithio. 

Wela i chi cyn hir ar gyfer ein sesiynau darllen - tybed beth fyddwn ni'n darllen yr wythnos hon? 

 

Hope you're all ok this morning. It was lovely to speak to you all yesterday, and to see how hard you have all been working. 

I will see you shortly for our reading sessions - I wonder what we'll be reading this week? 

 

Hwyl am nawr,
Miss Bloor 😊

 

Dydd Llun 8.6.20

Bore da i chi gyd!

Gobeithio cawsoch chi benwythnos hyfryd. Wnaethoch chi wneud unrhyw beth diddorol? Treuliais i fach o amser tu fas (rhwng y cawodydd glaw!), yn ceisio trefnu'r ardd.. mae'n dechrau dod! 

Cofiwch byddwn ni yn cwrdd fel dosbarth am 10 o'r gloch i drafod gweithgareddau'r wythnos. Mae'r cyfarfodydd ar google Calendar i chi yn barod. Mae'r amserlen wedi newid ar ddydd Mercher, bydd y sesiynau darllen yn y prynhawn yn lle'r bore. Edrychaf ymlaen at weld chi gyd cyn hir.

 

Good morning to you all!

I hope you all had a lovely weekend. Did you do anything interesting? I spent a bit of time outside (in between the rain showers!), sorting out the garden.. it's finally starting to take shape!

Please remember our usual meeting at 10am to discuss this week's activities. The meetings are all on google Calendar for you already. The timetable has changed slightly on Wednesday, the reading session will now be in the afternoon instead of the morning. 
Looking forward to seeing you all shortly.

 

Miss Bloor 😁

 

Amserlen google Meet yr wythnos hon. Cofiwch i wirio Google Calendar

This weeks google meet timetable. Please remember to check Google Calendar.

 

 

Her yr wythnos / Weekly challenge

 

Faint o lyfrau fedrwch chi gydbwyso ar silindr? 

How many books can you balance on a cylinder?

 

Gweithgareddau'r wythnos / This week's activities

Dysgu Gartref Wythnos 8 / Home Learning Week 8

1.6.20 - 5.6.20
(Wythnos Dwlu ar Ddarllen / Relishing Reading Week)


Dydd Gwener 5.6.20

Gwener Gwych hapus i chi gyd!! 😁
Rydym wedi cyrraedd diwedd yr wythnos yn barod, ac mae'r haul yn tywynnu unwaith eto! 🌞 Cofiwch byddwn yn cwrdd am 10 o'r gloch i chwarae bingo felly dewch â phen a phapur. Tybed pwy fydd yn ennill heddiw?

Happy Friday to you all!! 😁
We have reached the end of another week, and the sun has come back out to say hello 🌞 Remember we will be meeting at 10am to play bingo, so don't forget to bring a pen and paper. I wonder who will win today?

 

Dydd Iau 4.6.20

Shwmae Gelli Fanadlog?

Rydym ni bron wedi cyrraedd diwedd yr wythnos, hwre! Hoffwn i ddiolch i chi gyd am eich ymdrech gwych yr wythnos hon, mae'n braf cael ymarfer ein sgiliau darllen gyda’n gilydd. Yn hynny o beth.. oes unrhyw un wedi llwyddo i wneud her yr wythnos eto? Gwelais fod Casey wedi bod yn darllen nifer o bethau gwahanol, da iawn ti. 

Wela i chi cyn hir  - cofiwch i ddarllen gweddill y testun cyn i ni gwrdd. Mae'r testunau ar google classroom. 

 

We've nearly arrived at the end of the week, hooray! I would like to thank you all for your fantastic efforts this week, it has been lovely having a chance to practise our reading skills. On that note.. has anyone managed to complete the weekly challenge this week? I know Casey has been busy reading a variety of different things, well done! 

I will see you all shortly  - remember to read the rest of the text that we have been studying throughout the week. They are available on google Classroom.
 


Dydd Mercher 3.6.20

Bore da!
Sut ydych chi heddiw? Mae'r tywydd braf wedi diflannu yn anffodus, ond rydw i'n siwr bydd y glastwell a'r blodau yn yr ardd yn gwerthfawrogi bach o law.
Diolch yn fawr iawn i'r rhai ymunodd yn ein google meets ddoe, roeddech chi i gyd wedi darllen a thrafod yn wych. Cofiwch i fynd at eich google calendar i gael mynediad at y meet. Cliciwch ar y cyfarfod ac yna cliciwch 'join with google meet'. Os oes unrhyw broblemau gofynnwch.

Good morning!
How are you all today? Unfortunately the lovely weather has disappeared, but I'm sure the grass and the flowers in the garden will appreciate a bit of rain.
Thank you very much to those who joined the google meets yesterday, you all read and discussed very well. Remember to go to your google calendar to get the link and times of your meets. Simply click on the scheduled meeting and click 'join with google meet'. If there are any problems please let me know.


Hwyl am nawr,
Miss Bloor

 

Dydd Mawrth 2.6.20

Bore da Gelli Fanadlog!

Braf oedd cael gweld bron dosbarth cyfan ar google meet ddoe, diolch yn fawr iawn i chi am ymuno. Mwynheais i wrando ar eich newyddion o'ch hanner tymor. Cofiwch byddwn yn cwrdd mewn grwpiau llai rhwng dydd Mawrth a dydd Iau am wersi fyw, felly ewch at eich google calendar i wirio'r amseroedd. Edrychaf ymlaen at weld chi gyd cyn 'bo hir.

It was lovely to see nearly a full class of you yesterday on google meet, thank you very much for joining. I really enjoyed hearing about what you got up to over the half term. Remember we will now be meeting in smaller groups between Tuesday and Thursday for live lessons, so don't forget to check your google calendar to check what time your group is scheduled. Looking forward to seeing you shortly.

 

Dydd Llun 1.6.20 

Bore da a chroeso nôl Gelli Fanadlog! 

 

Gobeithio cawsoch chi hanner tymor hyfryd, edrychaf ymlaen at glywed eich newyddion. Rodden ni mor lwcus gyda'r tywydd! Treuliais i eitha tipyn o amser yn ymlacio a pharhau gyda'r gwaith yn yr ardd. Wnaethoch chi treulio amser yn yr ardd? Gweithiais yn yr hwb ar brynhawn dydd Iau hefyd, roedd yn braf iawn gweld aelodau o staff Ifor Bach ac i dreulio amser yng nghwmni plant. 

Ein thema yr wythnos hon yw 'Dwlu ar Ddarllen', felly bydd nifer o weithgareddau yn seiliedig ar ddefnyddio eich sgiliau darllen.  Mae'r google meets wedi newid tipyn o heddiw ymlaen, felly bydd PAWB yn cwrdd am 10yb fel arfer i drafod yr holl weithgareddau, ac yna rhwng dydd Mawrth a dydd Iau byddwn ni'n cwrdd mewn grwpiau llai.  Fe fydd angen i chi edrych ar google calendar (edrychwch ar y 'waffle') neu eich e-bost i weld pa grΕ΅p ydych chi. 

 

I hope you all had a lovely and relaxing half term, I'm looking forward to hearing all about it. We were so lucky with the weather weren't we! I spent a lot of time relaxing outside, as well as finishing off some of the work in the garden. What did you get up to? I also worked in the hub on Thursday afternoon, it was lovely to see some of the teachers from Ifor Bach and to spend some time with the children.

Our theme this week is 'Relishing Reading', therefore there will lots of activities based on using your reading skills. Our google meets have changed slightly, from today we will all be meeting at 10am to go through the week's activities, then between Tuesday and Thursday we will be meeting in smaller groups. You will need to check google calendar (use the 'waffle') or check your e-mail to see which group you are in. 

 

See you shortly,
Miss Bloor
 

Amserlen google Meet yr wythnos hon / This weeks google meet timetable:

 

 

Her yr wythnos / Weekly challenge

 

Eich her ar gyfer yr wythnos gyfan bydd i gwblhau yr helfa darllen, faint o bethau fedrwch chi ddarllen yn ystod yr wythnos?

Your challenge is to try and complete the reading hunt, how many of these can you read throughout the week? 

Gweithgareddau'r wythnos / This week's activities

Darllen / Reading

Amserlen Cyfarfodydd Rhieni / Parent Meetings Timetable 
Please see the timetable below for next week's parent-teacher phone calls.

 

Dysgu Gartref Wythnos 7 / Home Learning Week 7

18.5.20 - 22.5.20
(Wythnos STEM / STEM Week )

 

Dydd Gwener 22.5.20

 

Bore da a Gwener Gwych hapus i chi gyd! πŸ˜ƒ

 

Mae hi’n ddydd Gwener a diwedd hanner tymor πŸ₯³Hoffwn i ddiolch i bob un ohonoch chi am ymdopi mor wych dros yr wythnosau diwethaf, rydych chi wir yn gwneud i mi deimlo mor falch fel eich athrawes. Mae staff yr ysgol wedi bod wrthi’n creu fideo llawn atgofion hapus i chi, fedrwch chi gweld eich hun? 

 

Mywnhewch eich diwrnod a chofiwch i ymuno yn ein google meet am 10yb am ychydig o hwyl a sbri. 

 

Good morning and happy Friday to you all! πŸ˜ƒ

 

Friday is finally here and it’s the end of half term πŸ₯³
I would like to thank each and everyone of you for coping so brilliantly over the last few weeks, you really do make me feel so proud to be your teacher. The staff in school have been busy putting a little video together full of happy memories for you, can you spot yourself? 

 

Enjoy your day and remember to join our google meet at 10am for a little bit of a fun.

 

https://www.youtube.com/watch?v=ryMn7dEeIPA

 

Dydd Iau 21.5.20 

 

Bore da 😊

Rydym bron wedi cyrraedd diwedd wythnos arall ac rydych chi gyd yn gwneud yn fendigedig. Rydw i wedi bod yn siarad gyda’ch rhieni ac mae nhw wedi bod yn dweud faint mor wych a dewr yr ydych chi, felly da iawn i bob un ohonoch. Sut ydy’r arbrofion gwyddonoaeth yn mynd? Braf oedd gweld arbrawf enfys hudol Cadel a Vinnie, Bobi ac Isac an ceisio gwneud i’r ‘stick man’ i symud, peiriant Mathemateg Amelia a llawer mwy. Beth yw eich hoff arbrawf hyd yn hyn? Cofiwch i rannu unrhyw beth rydych yn gwneud, hyd yn oed os yw’n rhywbeth bach. Mwynhewch eich diwrnod ac mi welai chi i gyd yfory ar gyfer google meet Gwener Gwych am 10yb.

We’ve nearly reached the end of the another week and you’re all doing brilliantly. I’ve been speaking to your parents and they’ve been telling me what a wonderful job you’re all doing and being so brave, so a big well done to you all. How are you all getting on with the science experiments this week? It was lovely to see Cadel and Vinnie’s magical rainbow, Bobi and Isac attempting to get their stick men to move, Amelia’s maths machine and many more. What has been your favourite experiment so far? As always please share anything you do with me, big or small. Enjoy your day and I’ll see you all tomorrow for our Feel Good Friday google meet at 10am.

Hwyl am nawr,
Miss Bloor


Dydd Mercher 20.5.20 

 

Bore da Gelli Fanadlog 😊

 

Diolch yn fawr iawn i’r nifer ohonoch sydd wedi rhannu eich arbrofion gwyddonol gyda ni. Rydw i’n falch iawn i weld eich bod chi’n mwynhau bod yn wyddonwyr πŸ”¬ Beth yw eich hoff arbrawf hyd yn hyn? Rydym yn lwcus iawn eto gyda’r tywydd heddiw felly sicrhewch eich bod chi’n treulio amser yn mwynhau yn yr ardd. Cofiwch does dim google meet oherwydd y galwadau ffôn gyda’ch rhieni, ond byddwn ni yn medru dal lan ar ddydd Gwener fel rydym wedi arfer. Mwynhewch eich diwrnod, a chofiwch i gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

 

Thank you very much to those who have shared their science experiments, very pleased to see you’re all enjoying being scientists πŸ”¬ What experiment is your favourite so far? We are lucky again today with the weather so make sure you enjoy some time in the garden. Please remember there’s no google meet this morning due to parent-teacher phone calls, but we’ll catch up on Friday as usual. Have a lovely day, and please remember to get in touch if you have any questions.

 

Dydd Mawrth 19.5.20 
Bore da πŸ˜€


Gobeithio cawsoch chi ddiwrnod hyfryd ddoe wrth i ni gychwyn ar ein hwythnos STEM. Braf oedd cael gweld arbrofion Casey, er doedd un ddim mor llwyddiannus. Oes unrhyw un arall wedi llwyddo i wneud yr arbrawf gyda'r pen du eto? Tybed pa arbrawf byddech chi'n ceisio gwneud heddiw? Cofiwch i rannu eich gwaith ac arbrofion gwych gyda fi. Fel esboniais i ddoe, byddaf yn brysur dros y diwrnodau nesaf yn cysylltu â'ch rhieni, ond cofiwch byddaf dal ar gael dros e-bost i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Hwyl am nawr,
Miss Bloor.

Good morning πŸ˜€


I hope you had a lovely day yesterday to kick start our STEM week. It was lovely to see Casey's experiments, even if one wasn't as successful. Has anyone else managed to complete the 'dry eraser' experiment? I wonder what experiment you will try today? Please remember to share your brilliant work and experiments with me. As I explained yesterday I will be busy over the next few days contacting your parents, but please remember I'll be available over e-mail if you have any questions.

Bye for now,
Miss Bloor.

 

Dydd Llun 18.5.20 

Bore da Gelli Fanadlog!

 

Gobeithio cawsoch chi benwythnos hyfryd, rydw i'n edrych ymlaen at glywed eich newyddion. Rydw i wedi bod yn brysur yn yr ardd yn ceisio gwneud bach o blannu, byddaf yn rhannu lluniau gyda chi unwaith mae'n barod. Ein thema'r wythnos hon yw 'STEM', felly mae yna lawer o weithgareddau yn seiliedig ar bethau gwyddonol. Eich her ar gyfer yr wythnos gyfan  bydd i greu roced a gweld pa mor bell fedrwch chi wneud roced i hedfan. Edrychwch ar y ddogfen i'ch helpu. Byddwn yn cwrdd yn ein grwpiau ar google meet y bore 'ma fel arfer i drafod yr holl weithgareddau. Mi welai i chi cyn hir.

 

I hope you all had a lovely weekend, I'm looking forward to hearing all about them.  I have been busy trying to sort out my garden, I will share photos with you once it's all done. Our theme for this week is 'STEM', so there will be lots of  science based activities for you to do this week. Your challenge for this week will be to create a rocket and see how far it can travel. I have attached a document below to help you with this. As always, I will be going over the planned activities in our google meets this morning, see you soon. 

 

Amserlen google Meet yr wythnos hon / This weeks google meet timetable:

 

Dydd Llun/ Monday (Monday only this week due to parent-teacher phonecalls)
GrΕ΅p 1 / Group 1 - 10:00
GrΕ΅p 2 / Group 2 - 10:30

 

Dydd Gwener / Friday
Pawb / Everyone - 10:00

Gweithgareddau'r wythnos / This week's activities

Gweithgareddau ymarfer corff / Keep fit activities for the week:

Dysgu Gartref Wythnos 6 / Home Learning Week 6

11.5.20 - 15.5.20
(Wythnos Iechyd a Lles / Health and Wellbeing Week)

 

Dydd Gwener 15.5.20
Bore da i chi gyd!

Wel dyma ni, wedi cyrraedd diwedd wythnos arall. Da iawn i bob un ohonoch am eich gwaith arbennig yr wythnos hon. Cofiwch am ein google meet am 10yb gyda’ch gwallt gwirion πŸ€ͺ Edrychaf ymlaen at weld chi gyd cyn hir.

Well here we are at the end of another week. Well done to each and every one of you for your brilliant work this week. Don’t forget our google meet this morning at 10am with your silly hairstyles πŸ€ͺ Looking forward to seeing you all shortly.

Dydd Iau 14.5.20

Bore da πŸ˜ƒ

 

Braf cael siarad gyda nifer ohonoch chi ar google meet ddoe, roeddwn i’n dwlu gweld eich pic collages o’r pethau sy’n gwneud i chi’n hapus. Eich her heddiw yw i dreulio bach o amser yn yr awyr iach i weld pa fath o adar fedrwch chi ddarganfod. Pa adar fedrwch chi ddod o hyd iddo? 

 

It was lovely to see many of you on our google meet yesterday, I loved seeing your pic collages of the things that make you happy. Your challenge today is to spend some time outdoors and to do a little birdwatching. Which birds can you find from the sheet below? 
 

 

Dydd Mercher 13.5.20
Bore da Gelli Fanadlog πŸ˜€

Eich her heddiw yw i greu Pic Collage o bethau sydd yn eich gwneud chi'n hapus yn ystod y cyfnod yma. Gallwch gynnwys lluniau o'ch teulu, unrhyw anturiaethau rydych wedi bod arnynt, pethau rydych chi wedi creu, ac unrhyw beth arall sydd yn gwneud i chi wenu.

Your challenge today is to create a Pic Collage of things that make you happy during this time. You could include pictures of your family, any adventures you have been on, things you have created, and anything else in between that makes you smile.

 



Dydd Mawrth 12.5.20

Bore da Gelli Fanadlog πŸ˜ƒ

Mae’r haul yn tywynnu unwaith eto, felly eich her heddiw yw i greu hysbyseb ‘Dioglewch yn yr haul’ yn y Gymraeg i ddefnyddio yn yr ysgol. Gall eich hysbyseb cgynnwys sut i gadw’n ddiogel yn yr haul a pham mae’n bwysig. Gwyliwch y fideo am fwy o syniadau, a chofiwch i rannu eich gwaith gyda fi.

The sun is still shining for us today, therefore your challenge today is to create a ‘Sun Safety’ advert in Welsh that we could use in school. Your advert could show what we can do to stay safe and the reasons why it’s so important. Watch the video for more ideas, and remember to share your work with me.

https://www.youtube.com/watch?feature=youtu.be&v=v_vpCBvc7JM&app=deskt


Dydd Llun 11.5.20 

Bore da Gelli Fanadlog!

 

Gobeithio mwynheuoch chi'r dathliadau VE dros y penwythnos, rydw i'n edrych ymlaen at glywed eich newyddion. Ein thema yr wythnos hon yw 'Iechyd a Lles', felly mae yna llawer o weithgareddau i wneud i chi wenu a threulio amser gyda'r teulu. Byddwn yn cwrdd yn ein grwpiau ar google meet y bore 'ma i drafod yr holl weithgareddau. Mi welai i chi cyn hir.

 

I hope you all enjoyed your VE celebrations over the weekend, I'm looking forward to hearing all about them. Our theme for this week is 'Health and Wellbeing', so hopefully there will be lots of smiling and family time this week. I will be going over the planned activities in our google meets this morning, see you soon.

 

Amserlen google Meet yr wythnos hon:
This weeks google meet timetable:

 

Dydd Llun + Mercher / Monday + Wednesday
GrΕ΅p 1 / Group 1 - 10:00
GrΕ΅p 2 / Group 2 - 10:30

 

Dydd Gwener / Friday (Gwallt Gwirion / Silly Hairstyles)
Pawb / Everyone - 10:00

 

Her y Dydd / Daily Challenge
Addurnwch garreg gyda neges o garedigrwydd i roi wen ar wynebau plant a staff yr ysgol. Ar ôl i chi orffen addurno'ch carreg cadwch yn ddiogel, neu os ydych yn cerdded ar bwys yr ysgol gosodwch eich carreg o gwmpas muriau'r ysgol er mwyn i weddill y plant ei gweld wrth iddynt gerdded gyda'r teulu.

 

Find a pebble to decorate with a message of kindness that will raise a smile to those who find it. Once you've decorated your pebble, keep it safe or if you walk around the school on your daily walk, place your pebble around the perimeter of the school in order for other children to see them whilst out walking with families. Please feel free to take photos and share but leave the pebbles in place for others to find.

 

Gweithgareddau Dysgu'r Wythnos / This Week's Learning Activities

Dysgu Gartref Wythnos 5 / Home Learning Week 5

4.5.20 - 8.5.20
(Dathlu Diwrnod VE / Celebrating VE Day)

 

Dydd Iau 7.5.20 

Bore da Gelli Fanadlog!

Mae’r diwrnod wedi cyrraedd, mae hi’n amser i ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd πŸ‡¬πŸ‡§ Gobeithio mwynheuoch chi baratoi tuag at y parti stryd ddoe, roedd cacennau Scarlett a tharten afalau Caleb yn edrych yn flasus iawn!! Roeddwn i’n brysur yn paratoi hefyd.. (gwyliwch y fideo). Dewch i ymuno yn ein google meet am 10yb yn eich gwisgoedd o’r 1940’au i ddathlu gyda’r dosbarth.

The day has finally arrived, it’s time to celebrate the end of the Second World War! πŸ‡¬πŸ‡§I hope you all enjoyed preparing yesterday, Scarlett’s cakes and Caleb’s apple pie looked delicious! I was busy preparing too..(take a look at the video). Come and join our google meet at 10am in your 1940’s outfit to celebrate with the class. 

  

 

Dydd Mercher 6.5.20 
Bore da πŸ™‚

Mae ein parti stryd yn agosáu felly beth am ddefnyddio heddiw i baratoi’r addurniadau, arbrofi gyda’ch gwallt, paratoi gwisg neu coginio/ pobi rhywbeth?

Our street party is getting closer so why not use today to prepare the decorations, practise a hairstyle, choose your outfit or cook/ bake something?

 

      

 

Dydd Mawrth 5.5.20 
Bore da Gelli Fanadlog πŸ˜ƒ

Sut oedd eich diwrnod cyntaf yn dysgu am yr Ail Ryfel Byd? A wnaethoch chi fwynhau gwrando ar gerddoriaeth o’r cyfnod? Mae Mrs Griffiths a’i merch Molly wedi gosod her i chi (a fi!) heddiw.. i ddysgu dawns! Rydw i’n siwr bydd dawnswyr y dosbarth yn hapus πŸ˜„. Cofiwch i rannu unrhyw luniau a fideos.. pob lwc!

How was your first day learning about the Second World War? Did you enjoy listening to music from the era? Mrs Griffiths and her daughter Molly have set today’s challenge for you (and me!)... to learn a dance! I’m sure the dancers of the class will be happy πŸ˜„ Remember to share any pictures and videos..good luck!


 

Dydd Llun 4.5.20
Bore da Gelli Fanadlog πŸ˜ƒ

Rydym ni’n mynd nôl mewn amser yr wythnos hon i ddathlu diwrnod VE, felly bydd pob gweithgaredd yn seiliedig ar yr Ail Ryfel Byd. Fe fydd hyn yn gyfle gwych i chi camu nôl mewn amser i ddysgu am fywyd yn yr 1940’au. Cofiwch i ymuno ar google meet yn eich grwpiau i glywed mwy am yr holl weithgareddau hwylus.

 

We’re going back in time this week to celebrate VE Day, so every activity will be based on World War Two. It is a fantastic opportunity to step back in time and to learn what life was like in the 1940’s.
Remember to join in with google meets this morning to hear more about the activities.

 

Amserlen google Meet yr wythnos hon:
This weeks google meet timetable:

 

Dydd Llun + Mercher / Monday + Wednesday
GrΕ΅p 1 / Group 1 - 10:00
GrΕ΅p 2 / Group 2 - 10:30

 

Dydd Iau / Thursday (due to bank holiday on Friday)
Pawb / Everyone - 10:00
I ddathlu Diwrnod VE / to celebrate VE Day

6 May 2020 at 22_50.MOV

Still image for this video

Gweithgareddau dysgu'r wythnos / This week's learning activities

Wythnos VE Week 4.5.20

Sing as We Go

Caneuon y cyfnod/Warld War 2 sing along

Her y dydd/ Daily Challenge: Edmunds' Family Album 1945 Challenge

Dysgu Gartref Wythnos 4 / Home Learning Week 4

27.4.20 - 1.5.20

1.5.20 - Her y dydd/ Daily Challenge 

Rydym wedi cyrraedd dydd Gwener, ac mae'r haul yn tywynnu unwaith eto, hwre! β˜€οΈ Da iawn i bob un ohonoch chi am eich ymroddiad a'ch ymdrechion yr wythnos hon, rydw i'n dwlu gweld beth rydych chi wedi bod yn gwneud a gweld eich wynebau hapus. Ein thema heddiw ar gyfer Gwener Gwych yw creu calon a danfon neges o gyfeillgarwch a chefnogaeth. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi a helpu ein gilydd yn ystod y cyfnod yma. Cofiwch am ein google meet y bore 'ma am 10:00 - edrych ymlaen at weld chi gyd πŸ˜ƒ

 

Well we have made it to Friday, and the sun is shining, hooray! β˜€οΈ Well done to each and everyone one of you for your efforts and dedication this week, I really do enjoy seeing what you've been getting up to and seeing all your happy faces. Our 'Feel Good Friday' theme this week is to create a heart and send a message of support and kindness. It is important that we help and support each other during this period. Don't forget our google meet this morning at 10am - looking forward to seeing you all πŸ˜ƒ

 

 

30.4.20 - Her y dydd / Daily Challenge 

Bore da Gelli Fanadlog πŸ˜ƒ

 

Mae gen i her wyddonol i chi heddiw sydd yn dangos faint mor bwysig ydy hi i olchi ein dwylo gyda sebon er mwyn cadw’r germau i ffwrdd.

 

I have a science experiment for you to try today which shows us how important it is to wash our hands with soap to keep those germs away.

Cliciwch yma / Click here 

 

29.4.20 - Her y dydd / Daily Challenge 

Bore da πŸ˜ƒ 

 

Rhowch gynnig ar her Mathemateg y dydd - Pob lwc!
Have a go at today’s Mathematics challenge - good luck! 

 

 

Cofiwch am ein google meets y bore ‘ma, grΕ΅p 1 am 10:00 a grΕ΅p 2 am 10:30. Edrychaf ymlaen at weld chi gyd.

Don’t forget our google meets this morning, group 1 at 10:00 and group 2 at 10:30. Looking forward to seeing you all.


28.4.20  - Her y dydd / Daily Challenge 

 

Bore da Gelli Fanadlog!

Yn anffodus mae’r tywydd braf wedi diflannu felly ewch ati i drio her y dydd i gadw chi’n brysur.

Edrychaf ymlaen at weld eich gwaith πŸ˜ƒ

 

Unfortunately the lovely weather has disappeared, so why not try today’s challenge to keep yourselves busy.

I’m looking forward to seeing your masterpieces πŸ˜ƒ
 

Cliciwch ar y linc isod / click on the link below:
https://youtu.be/jvyoGw4kPBs
 

              

 

Gwybodaeth / Information

 

Bore da smiley

 

Gobeithiaf eich bod chi gyd wedi mwynhau dros y penwythnos, edrychaf ymlaen at glywed am beth rydych chi wedi bod yn gwneud. O hyn ymlaen fe fyddwn ni'n cwrdd fel dau grwp ar Google Meet am 10:00 a 10:30 pob bore dydd Llun i ddangos ac i drafod y gweithgareddau rwyf wedi paratoi i chi. Felly, cofiwch i wirio eich e-bost i weld faint o'r gloch rydym yn cwrdd. 

 

I hope you all enjoyed yourselves over the weekend, I'm looking forward to hearing all about what you've been doing. Just a little update to say from this week onward, I will be hosting a Google Meet in 2 groups every Monday morning at 10:00 and 10:30 to show and discuss the activities that I have planned for you. Please check your e-mail to see what time we are meeting. 

 

Diolch 
Miss Bloor

Gweithgareddau dysgu'r wythnos / This week's learning activities

Gweithgareddau ymarfer corff / Keep fit activities for the week:

Dyddiadur Miss Bloor

27/4/20

Helo Gelli Fanadlog!
 

Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ac wedi mwynhau’r penwythnos. Rydw i wedi bod yn brysur yn cystadlu mewn rhagor o gwises gwahanol gyda ffrindiau ar zoom. Rydw i’n dwlu! Mae Ffion yn bwriadu cynnal cwis i ni yn ein google meet Gwener Gwych, felly cofiwch i ymuno am 10yb.

 

Roedd hi’n hyfryd siarad gyda chi bore ‘ma, rydych chi gyd yn wych! Rydw i’n dwlu gweld beth rydych chi wedi bod yn gwneud a’r holl waith caled. 

 

Cadwch yn saff, 

Miss Bloor

Hello Gelli Fanadlog!

I hope you’re all well and enjoyed yourselves over the weekend. I’ve been busy taking part in even more quizzes with friends over the weekend.. I love them! Ffion is hoping to host a quiz for us during this week's Feel Good Friday meeting, so remember to join in at 10am.

It was lovely to speak to you this morning, you’re all amazing! I love seeing what you’ve been busy doing and the hard work you’ve done. 

 

Stay safe,
Miss Bloor

20/4/20

Bore da a chroeso nol ar ôl y gwyliau Pasg.

Gobeithiaf eich bod chi gyd wedi mwynhau eich gwyliau Pasg, edrychaf ymlaen at glywed am beth rydych chi wedi bod yn gwneud. Rydw i wedi bod yn ymlacio yn yr ardd eitha tipyn dros y pythefnos diwethaf, ond rwyf nawr yn falch i fod nol mewn rhyw fath o strwythur ysgol. Beth ydych chi wedi bod yn gwneud? Llwyddoch chi i wneud unrhyw gweithgareddau ar y grid?

 

Yn y nosweithiau rydw i wedi bod yn cymryd rhan mewn nifer o cwises gwahanol dros y we, gyda fy ffrindiau ac fy nheulu. Erbyn hyn rydw i wedi enill 3 allan o 4 cwis! Ydych chi wedi cymryd rhan mewn cwis o gwbl?

 

Oce, well i mi mynd nol i weithio, methu aros i weld chi gyd ar google meet. 

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

Good Morning and welcome back after the Easter break.

I hope you all enjoyed your Easter break, I'm looking forward to hearing all about what you've been doing. I have been relaxing in the garden quite a lot over the last fortnight, however I'm quite glad to be getting back into my usual school routine. What have you been busy doing? Did you manage to complete any of the activities in the grid I sent you?

During the evenings I have been taking part and hosting quiz nights with my family and friends. So far I have won 3 out of 4 quizzes! Have you been taking part in any virtual quizzes?

Anyway.. back to work, I shall see you shortly for our google Meet. 


Diolch
Miss Bloor

 

3/4/20

Wel dyma ni, mae hi'n dydd Gwener yn barod! Hedfanodd yr wythnos hon! Gobeithiaf eich bod chi gyd yn iawn ac y n cadw'n saff. Roedd hi'n hyfryd siarad gyda nifer ohonoch chi ar ddydd Mercher, rydw i'n edrych ymlaen at ein 'catch up' nesaf yn barod! 

 

Nawr... gan ei bod hi'n Dydd Gwener Gwych, beth am i ni gael bach o hwyl.. Rhannwch eich sgiliau cydbwyso.

Pwy sy'n gallu cydbwyso'r eitem fwyaf anghyffredion?! 
Her - i wneud 'squat'gyda'r eitem ar eich pen.

 

Pob lwc!

 

Well here we are, Friday already! This week has flown by! I hope you're all ok and keeping safe. It was lovely to speak to a few of you on Wednesday. I can't wait to catch up with you all again. 

 

Now, seen as it's Feel Good Friday, let's have some fun.. share your balancing skills with me.

Who can balance the most random object on their head?

Challenge - to do a squat with the item on your head.

 

Good luck!

 

Here's mine laugh

 

 

 

30/3/20

Bore da Gelli Fanadlog,

 

Gobeithiaf mwynheuoch chi’r penwythnos, er ei bod hi wedi oeri eithaf tipyn i gymharu ag wythnos diwethaf. Wnaethoch chi wneud unrhyw beth diddorol?

 

Rydw i wedi bod yn brysur yn pobi mwy o gacennau, (swydd newydd i Miss Bloor yn y dyfodol efallai?!), yn ogystal â mynd am dro yn ddyddiol i gael bach o awyr iach. Mae’r plant yn fy ardal wedi bod yn brysur yn ysgrifennu negeseuon hyfryd i bawb i ddarllen ar y llawr gan ddefnyddio sialc.

 

Os oes gennych chi sialc yn y tΕ·, efallai gallwch chi wneud rhywbeth tebyg pan rydych yn mynd ar eich teithiau dyddiol. 

 

 Dechreuais i ioga dros y penwythnos hefyd, roeddwn i wir wedi mwynhau. Ydych chi wedi bod yn gwneud unrhyw ioga o gwbl? Cofiwch mai’r linc ar gyfer Cosmic Ioga ar ein tudalen dosbarth neu ar google Classroom os hoffech chi

 

Yn ogystal â ioga, es i ati i wneud ymarfer corff gyda Joe Wicks, ac mae’n rhaid i mi ddweud roeddwn i wedi blino’n lân! Teimlais lot yn well ar ôl hynny, felly mae’n bwysig iawn eich bod chi’n gwneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd. 

 

O hyn ymlaen byddaf yn rhannu cynllun wythnosol gyda chi, sydd yn cynnwys gweithgareddau dyddiol i chi. Byddaf ar gael ar fore dydd Mercher am 11yb i siarad gyda chi dros Google Meet (fel Facetime), ond cofiwch i gysylltu os oes unrhyw broblemau neu os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau am y gwaith. 

 

Hwyl am nawr,

Miss Bloor

 

Good Morning Gelli Fanadlog,

 

I hope you all enjoyed yourselves over the weekend, even though the weather wasn’t quite as  nice as last week. Did you get up to anything interesting?

 

I have been busy baking even more cakes (career change for Miss Bloor maybe?!), as well as making the most of our daily walks to get some fresh air. Whilst out on my walk the other day I noticed that children had been busy writing thoughtful messages on the floor for everyone to see. Here are a couple of them:

 

Maybe, if you have some chalk in the house you could do the same on your daily walk? It will definitely make people smile. 

 

I have also started doing some yoga which I have really enjoyed. Have any of you been doing any yoga? The link to Cosmic Yoga is on our website and on google classroom if you do fancy doing some. 

 

I also tried one of Joe Wicks’ home workouts last week - and I must say I was exhausted, but it made me feel a lot better. It is very important that we do some sort of exercise everyday. 

 

From today, I will be sharing a weekly plan with you which contains daily activites for you to complete. I will be available on Wednesday morning at 11am on Google Meet (similar to Skype/Facetime) if any of you would like to have a catch up, but please remember to get in touch if there are any problems or if you have any questions about the work.

 

Bye for now,

Miss Bloor

 

 

27/3/20

 

Dydd Gwener hapus i chi gyd! laugh

 

Diolch yn fawr iawn i’r rhai sydd wedi rhannu eu dyddiaduron gyda fi, mae’n hyfryd i glywed am beth rydych chi wedi bod yn gwneud. Cofiwch i ddiweddaru ac ychwanegu at eich dyddiaduron yn ddyddiol os yw’n bosib. 

 

Siaradais i gyda Mrs Morris, Miss Perry, Miss Jenkins a Miss Evans ddoe ar google meet, fel rhyw fath o ‘facetime’ grΕ΅p. Roedd hi’n braf iawn i weld rhywun gwahanol, er ei bod hi trwy’r sgrin! Bydd cyfle i ni fel dosbarth dal i fyny ar google meet wythnos nesaf, byddai’n rhannu amserlen gyda chi erbyn dydd Llun. 

 

Heddiw mae gennych chi gyfle i ymweld â Sw Chester - cliciwch ar y linc isod: 

https://www.facebook.com/chesterzoo1/videos/594601351138857/?from=bookmark

 

Cofiwch i edrych ar ein Google Classroom yn ddyddiol i weld unrhyw negeseuon pwysig. 

 

Mwynhewch y tywydd braf smiley

 

Hwyl am y tro,

Miss Bloor

 

 

 

25/3/20

 

Bore da Gelli Fanadlog,

 

Gobeithiaf eich bod chi gyd yn iawn ac yn cadw'n saff yn eich tai. Mae hi'n rhyfedd iawn peidio gweld chi gyd pob dydd, ond mae hi'n bwysig ar hyn o bryd ein bod ni'n cadw'n ddiogel. Ydych chi wedi arddangos eich enfysau yn eich ffenestri? Sawl enfys ydych chi wedi gweld wrth i chi fynd am dro o gwmpas y pentref?

 

Dros y diwrnodau diwethaf rydw i wedi bod yn mwynhau'r haul trwy wneud ymarfer corff yn yr ardd oherwydd dydy'r gampfa ddim ar agor,  a pheintio yn y tΕ·. Beth ydych chi wedi bod yn gwneud? Ydych chi wedi bod yn mwynhau'r tywydd braf?

 

Ddoe defnyddiais i fy sgiliau coginio i bobi bisgedi iachus, yn debyg iawn i ein fflapjacs ni! Wnes i sicrhau nad oeddwn i'n defnyddio cynhwysion sydd yn cynnwys olew palmwydd hefyd (da iawn Miss Bloor!). Ydych chi wedi coginio neu pobi unrhyw beth dros y diwrnodau diwethaf? 

 

Dyma nhw.. does dim llawer ar ôl nawr!

 

 

 

Heddiw rydw i'n brysur yn paratoi gweithgareddau ar eich cyfer, felly cofiwch i edrych ar google Classroom yn ddyddiol am fwy o wybodaeth. Rydw i wedi gosod tasg i chi yn barodsmiley .

 

Edrychaf ymlaen at glywed wrthoch,

 

Hwyl am nawr

Miss Bloor  

Gweithgareddau Pasg

Easter Activities

Dyma syniadau am weithgareddau i wneud dros y Pasg. Mwynhewch a chadwch yn saff! 

Here are some ideas for activities you could do over Easter. Enjoy and stay safe. 

Gweithgareddau Pasg / Easter Activities

Cystadleuaeth y Pasg, an Easter competition

Useful Websites to Support your childs' learning

Please also visit - 'Kids' Zone' for further website links.

Profion ymarfer Mathemateg/ Procedral Mathematics Practice Tests

Croeso i Gelli Fanadlog!

Welcome to Gelli Fanadlog!

 

Miss Bloor yw ein hathrawes ddosbarth. Mae yna 32 o ddisgyblion blwyddyn 4 a 5 yn ein dosbarth ni eleni. 

Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn prysur, cyffrous a hapus.

 

Miss Bloor is our class teacher. There are 32 year 4 and 5 pupils in our class. 

We are all looking forward to a year full of exciting, happy and new experiences.

 

For regular photos and class activities follow us on twitter - @bachysgol 

Our school Twitter page

 

Ein Thema / Our Theme

Thema y tymor hwn yw ‘Darn bach o dir’. 

 

Our theme this term is 'Small bit of land'.

Pethau i’w Cofio

Ymarfer Corff - pob dydd Llun (Bydd angen i blant ddod â chit chwaraeon i’r ysgol: llodrau / leggins du, crys-t gwyn a threiners).

Darllen - Angen dod a bag darllen i’r ysgol bob dydd.

Poteli dΕ΅r - Rydyn ni’n annog y plant i ddod â photel plastig o ddΕ΅r wedi’i lenwi i’r ysgol bob dydd (nid sudd neu sgwash, er mwyn atal pydredd dannedd).

Dillad Coll - A allwch sicrhau bod enw eich plentyn wedi’i hysgrifennu tu mewn i bob dilledyn.

Ffrwythau - plîs dewch â darn o ffrwyth, cig neu becyn iogwrt i’w fwyta amser chwarae neu 20c yn ddyddiol i brynu darn o ffrwyth yn ein siop ffrwythau.

Gwaith Cartref - Annogir pob plentyn i ddarllen yn rheolaidd. Yn achlysurol rhoddir darnau penodol o waith cartref megis; sillafu ychwanegol, ymarferion rhifedd neu brosiectau thematig.

 

Things to Remember

P.E - Every Monday - (pupils are asked to bring a P.E. kit to school so that they can change for lessons. Clothing and bags should be labelled; the bag should include a plain white t-shirt, black shorts/trousers and trainers).

Reading – Reading books must be returned every day.

Water bottles – children may bring water bottles to school (already filled). No other drinks are permitted, only water!!

Lost clothing – Please ensure that your child’s name is clearly marked on every item of clothing.

Fruit - We are a healthy school. Please provide your child with a healthy snack (no cereal bars) to eat at break times. A piece of fruit can be bought for 20p at our fruit tuck shop.
Homework - All pupils are expected to read regularly. Additional pieces of homework may be provided by the class teacher, for example; additional spelling, numeracy and literacy exercises and occasionally thematic projects. 

 

Top