Menu
Home Page

Cwrt y Celyn

06.07.20

 

Bore da, 

 

Rydym ni yn cynnal wythnos Mabolgampau yr wythnos yma. Hwyl a sbri! Mae gennych chi sialens i gwbwlhau yn ysto dyr wythnos. Beth am wneud gyda aelod o'ch teulu? Edrych ymlaen i weld eich fideos. Cofiwch i rhannu popeth ar tudalen facebook y dosabarth. 

 

Mae ein thema yr wythnos yw Mabolgampau. Mae gennych chi weithagreddau hwylus i wneud ac rydym yn adolygu yr hyn rydym wedi dysgu hyd yn hyn o ran ein gwaith wythnos. Edrych ymlaen i weld eich gwaith! Rydych chi wedi bod yn wych gyda cwbwlhau'r gwaith yr wythnosau diwthaf da iawn chi!

 

This week we are going to be doing out sports week. Lots of fun and games! You have a challenge to complete and i am looking forward to seeing your videos. Please remember to share the videos on the class Facebook page. 

 

The theme of the week is sports week. There are many fun and spontaneous activities to complete. We are also going to be revising many skills that we have learnt over the last few weeks. Your work have been amazing over the last few months so please keep it up!

Grid yr wythnos / Weekly grid 06.07.20

29.06.20

 

Bore da i chi gyd, 

 

Gobeithio eich bod weid mwynhau yr haul yr wythnos diwethaf. Braf oedd gweld yr haul yn tywynnu ar yr ysgol yr wythnos diwethaf. Wythnos arall yn dechrau heddiw! Wythnos natur lleol sydd gyda ni. Amser hyfryd i fod allan yn cerdded o amgylch eich ardaloedd lleol i weld pa fath o natur sydd gyda chi o gwympas. A oes adar yn canu yn y bore? A oes coed yn symud yn y gwynt? Arogl hyfryd gyda'r blodau yn eich ardd! 

Edrych ymlaen yn fawr i groesawi rhai ohonoch chi nol i'r ysgol yr wythnos yma! Mae mynd i fod yn braf iawn i weld eich gwynebau eto ac i gael chi nol yn y dosbarth. Disgwyl ymlaen i glywed eich straeon o'ch amser dros yr wythnosau diwethaf. Cofiwch i ddarllen unrhyw dofennau mae Mrs Edmunds wedi rhannu gyda chi am ein mannau aros tu allan i'r ysgol. 

 

Llinellau Gwyrdd am 9:45 y bore.

Llinellau Gwyn am 2:30 y prynhawn.

 

** Cofiwch am newidiadau Google Meets / Remember the change to our Google Meets **

 

Dydd Llun (Monday) 9:00am

Dydd Mercher (Wednesday) 9:00am

Dydd Gwener (Friday) 10:30am

 

Morning all, 

I hope you enjoyed the sun last week, it was wonderful to see the sun shining down on the school all week. Another week begins today! A week of our local nature. A wonderful time to go out exploring on walks and seeing what sort of nature you have around your homes. Do you have any birds singing? Tree's moving in the wind? The smell of the flowers through the air?

I am looking forward to welcoming some of you back to school this week. It's going to be wonderful to have you back in the classroom. I am looking forward to hearing all your stories of the many things you have been getting up to during lockdown. Remember to read any information Mrs Edmunds has shared with you regarding our meeting points outside the school. 

 

Green lines at 9:45 in the morning

White lines at 2:30 in the afternoon

Grid yr wythnos 29.06.20

22.06.20

 

Helo pawb, goebithio eich bod wedi mwynhau eich penwythnos. Mae'r wythnosau yn hedfan. Mae eich gwaith yn wych! Rydych yn gwneud mor dda yn ystod eich wythnosau adref. Da iawn chi! Dwi'n bles iawn gyda pob un ohonoch yn ystod yr amser yma. Cofiwch rydym ni gyd yn hwn gyda'n gilydd! 

Dyma ni ar ddechrau wythnos arall. Wythnos ar ryfeddodau'r byd. Cyffrous iawn! Ydych chi'n gwybod unrhyw gwybodaeth am y rhyfeddodau cyn dechrau'r wythnos? Mae pob tasg yn mynd i fod yn y Gymraeg yr wythnos yma os gwelwch yn dda. Cofiwch bod angen ymuno ar Google Meets ar gyfer sesiynau byw ar Ddydd Mawrth, Mercher a Iau. Rwyf wedi danfon gwahoddiad i chi yn barod. 

 

Google Meets 

Dydd Llun - 10:30 (Pawb)

Dydd Mawrth - Grwp 1 10:00yb

                            Grwp 2 10:30yb

                            Grwp 3 11:00yb 

Dydd Mercher - Grwp 1 10:00yb

                            Grwp 2 10:30yb

                            Grwp 3 11:00yb 

Dydd Iau -         Grwp 1 10:00yb

                            Grwp 2 10:30yb

                            Grwp 3 11:00yb 

Dydd Gwener - Gwener Gwych 10:30 (Pawb)

 

Edrych ymalen i weld eich gwaith yr wythnos yma!

 

Hello all, hope you have all enjoyed your weekend. The weeks are flying past. Your work has been excellent! You're all doing great and i am very proud of you all. Well done! Remember we are all in this together!

Here we are at the beginning of another week. A week of learning about the 7 wonders of the world. Exciting!Do you have any knowledge already before you start this weeks work? Remember all work this week must be completed in Welsh please. Remember to join the Google Meets on a Tuesday, Wednesday and Thursday for our live lessons together. I have already sent out the invitations to your Google Calendars. 

 

Look forward to seeing you all this week and all your work!

 

Hwyl am y tro, 

 

Miss Jenkins smiley

Grid gweithgareddau 22.06.20

15.6.20

 

Helo Cwrt Y Celyn, 

 

Dyma ni ar ddechrau wythnos arall. Rydym ni dal yn mynd i fod yn ffocysu ar ein sgiliau darllen yr wythnos yma. Cofiwch bod pob tasg yn cael ei wneud yn y gymraeg yr wythnos yma. Rydym mynd i fod yn dysgu o amgylch wythnos y cefnfor. Mae'r tasgau wedi cael ei gynllunio o amgylch y thema. Rywf wedi rhannu clipiau fideo gyda chi ar gyfer cymorth yn ystod yr wythnos. Mae clip Tapas wedi cael ei rhannu gyda chi hefyd. Mae angen i chi wylio'r clip yn ddyddiol os gwelwch yn dda. Cofiwch i ddarllen pennod 3 o'ch llyfrau yr wythnos yma, yn ogystal adolygwch eich tablau ar gyfer ein gwersi byw. Fe fydd ein Google Meets yn parhau yr wythnos yma, mae'r gwahoddiadau wedi cael ei danfon allan yn barod. 

 

Here we are at the beginning of another week. We will still be focusing on our reading skills this week. Remember all tasks must be completed in Welsh. We are going to be doing tasks around World Ocean week. The tasks i have set are all focusing around this theme. I have shared video clips with you this week that will support you with different tasks. Please remember to look back at old videos also. I have also shared a Tapas video with you, i would like you to watch this video on a daily basis please. Remember to read chapter 3 of your book this week ready for our session, also remember to revise your times tables ready for our live session this week. Our Google Meets will continue this week and I have already sent our the invitations. 

Grid gweithgareddau 15.06.20

Grid gweithgareddau 8.6.20

1.6.20

 

Bore da, wel dyma ni ar ddechrau tymor newydd! A wnaethoch chi mwynhau eich hanner tymor? Beth wnaethoch chi? 

Yr wythnos yma rydym yn mynd i fod yn focysu ar Dwli ar ddarllen. Wythnos o weithgareddau darllen! Fe fydd llawer o bethau yn cael ei ychwanegu ar ein Google Meets y tymor yma a fyddaf yn trafod hwn gyda chi ar ein Google Meet am 10:30! Fe fydd ein Google Meets grwpiau yn diwgwydd o Ddydd Mawrth i Ddydd Iau ond yn cadw at eich amseroedd gwereiddiol. Fe fydd gwahoddiad yn cael ei danfon i'ch calendr Google. 

 

Good Morning, well here we are at the beginning of another term. Did you enjoy your half term? What did you do? This week we are going to be focusing on our reading! There will be a few extra changes to our Google Meets this term and i will be discussing this on our Google Meet this morning at 10:30. Our group Meets will be happening from Tuesday to Thursday but keeping at your usual times. There will be an invitation sent to your Google Calendar weekly. 

 

                                                                    

Grid gweithgareddau 1.6.20

15.05.20

 

Dear Parents, 

 

Please see the timetable below for your times for our Parents Meeting next week. If there are any issues then please do contact me smiley

Croeso cynnes i Cwrt y Celyn!

A warm welcome to Cwrt y Celyn!

 

Miss Jenkins yw ein hathrawes ddosbarth, rydym yn ffodus iawn hefyd o dderbyn cymorth gan Mr Reeves.

 

Mae 28 o ddisgyblion yn ein dosbarth ni eleni, 5 ohonynt ym mlwyddyn 4 a’r gweddill ym mlwyddyn 3. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn prysur, cyffrous a hapus.

 

Miss Jenkins is our class teacher, and we are also very lucky to have Mr Reeves to support us.

There are 28 of us in the class, 5 of us are in year 4 and the rest of us are in year 3.

We are all looking forward to a year full of exciting, happy and new experiences. 

 

Ein Thema / Our Theme

Thema y tymor hwn yw ‘Darn bach o dir' Edrychwch isod am ragor o fanylion.

 

Our theme this term is 'Small bit of land' Please see below a detailed view of the things that we will be learning. 

Her yr wythnos 18.05.20

 

Bore da pawb,

 

Dyma eich her ar gyfer yr wythnos yma. Dwi'n edrych ymlaen i weld eich lluniau a clipiau fideo!

 

Here is this week's challenge. I look forward to seeing your photos and video clips!

 

Grid Gweithgareddau 18.05.20

Dyddiadur Miss Jenkins 

 

 

 

18.05.20

 

Wen dyma ni yn dechrua wythnos newydd eto. Braf gweld eich gwaith yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae'n amlwg eich bod chi gyd yn mwynhau yn fawr wrth fod allan yn yr awyr agored. Mae yna llwyth ohonom ni yn Cwrt Y Celyn yn dathlu Penblwydd yn ystod y cyfnod yma, felly Penblwydd Hapus enfawr i bob un ohonch chi a gwnewch y fwyaf o ddim rhannu eich cacen!surprise

 

Mae'r wythnos diwethaf yma wedi bod yn un annodd, dwi wedi dechrau gweld eisiau'r teulu a ffrindiau yn fwy na dim yr wythnos yma. Dros y penwythnos fe wnes i sicrhau fy mhod yn defnyddio Facetime i weld aelodau o'r teulu. Ges i sgwrs hir gyda fy mrawd gan drafod yr hyn mae ef yn gwneud yn ystod yr amser yma. Mae'n amlwg bod fy mhrawd yn brysur iawn wrth weithio ar y llinell flaen yn ystod y cyfnod yma ac dwi'n balch iawn ohono fe ar hyn o bryd. 

 

Yn ystod yr wythnos dwi wedi bod yn brysur yn lliwio fy ngwallt... dwi nawr wedi mynd cylch cyfan a fynd yn ol ar lliw gwreiddiol fy ngwallt.. brown! Hyfryd i gael gwallt newydd ond hefyd dwi yn colli'r gwallt golau yn barod. Edrych ymlaen yn fawr i gael fy ngwallt wedi gwneud yn gywir cyn hir. 

 

Dyma fy ngwallt!

11.05.20

 

Wel dyna wythnos bendigedig gaethon ni gyd wythnos diwethaf! Wnaethoch chi mwynhau dysgu am yr Ail Rhyfel Byd? Wnes i mwynhau mas draw yn dathlu yn ystod yr wythnos.

 

Dros y penwythnos bues i yn dathlu gyda'r stryd am y tro cyntaf erioed ers i mi fyw yma. Roeddwn ni gyd wrth ein boddau yn cymdeithasu gan ystyried rheolau y wlad nawr, ond roedd yn hyfryd trafod o bellter gyda'n cymdoegion. 

Bues i allan tan hwyr y nos yn canu, dawnsio a sgwrsio gyda'r cymdogion yn y stryd. Wnaethon ni gwrdd a'n cymdogion newydd sydd wedi symud i'r stryd yn ddiweddar ond heb cael y cyfle i ddweud helo. 

 

Beth wnaethoch chi i ddathlu?

 

Ar Ddydd Sadwrn roedd hi'n bwrw glaw gyda ni, felly gaethon ni diwrnod ar y sofa yn gwyliau'r teledu ac ymlacio. Wnaethon ni ddim llawer arall dros y penwthnos ond ymlacio a cymryd amser i gamu nol a cael amser gyda'r teulu. 

 

Beth ydych chi wedi bod yn gwneud?

 

Hwyl am y tro,

 

Miss Jenkins

 

 

 

 

 

4.05.20

Yr wythnos yma rydym ni'n mynd nol mewn amser i ddysgu am 1940au. Amser yr ail rhyfel byd, dioddorol iawn. 

 

Dros yr wythnos diwethaf dwi wedi bod yn brysur yn datblygu sgiliau newydd. Dwi wedi bod yn brysur ar y penwythnos yn helpu Dad i greu clwyd ar gyfer cefn ein ty ni. Bues i yn dysgu sut i greu ongl crwn yn pren. Diddorol iawn o sut mae Dad yn gweithio hub gyda pren. 

 

Yn ystod yr wythnos dwi wedi bod yn brysur yn paratoi ag ymchwilio am wybodaeth ar gyfer wythnos o waith ar yr Ail Rhyfel byd, roedd yr ymchwil  a darllen yn diddorol ag addysgiadol iawn, wnes i mwynhua mas draw. Hefyd dwi wedi bod yn brysur yn gwneud cyrsiau arlein i wella sgiliau cymorth cyntaf. Dwi nawr wedi hyfforddi yn Cymorth cyntaf i oedolion ac i blant, Hwre! 

 

A ydych chi wedi bod yn brysur yn dysgu sgil newydd dros yr wythnos diwethaf? 

 

Dwi'n barod am wythnos newydd o ddysgu! Edrych ymlaen i weld beth rwyf yn mynd i ddatblygu yr wythnos yma.

 

Hwyl am y tro,

 

Miss Jenkins

 

 

 

 

 

27.04.2020

 

Wythnos arall wedi dechrau! Beth wnaethoch chi dros y penwythnos?

 

Dwi wedi bod yn brysur yn creu clipiau fideo ar eich cyfer chi yn ystod y diwrnodau diwethaf. Ond wnes i ymlacio hefyd allan yn yr ardd gyda'r teulu yn y tywydd braf yma. Bues i am dro gyda'r teulu yn gwneud ein 5 milltir y dydd dros y penwythnos. Aethon ni am dro heibio ein clwb golff lleol gan fod golygfeydd hyfryd o amgylch. 

 

Dwi wedi mwynhau ymlacio yn yr ardd a gwario amser gyda teulu. A ydych chi wedi bod am dro?

 

Another week has started! What did you do with your weekend?

 

I have been busy recording video clips ready to support you during this weeks activities. But i also did relax in the garden with the family in this wonderful weather. I have been on out daily 5 mile walk over the weekend. We walked down to see our local Golf course as there is wonderful sights around that area. 

 

I have enjoyed relaxing in the garden and spending time with the family. Have you been for your daily walk?

 

 

20.04.2020

 

Croeso nol! Dyma ni yn dechrau wythnos newydd o ddysgu. 

Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich gwyliau Pasg a bwyta llawer o wyau siocled. Faint wnaethoch chi fwyta? Wnes i ddim bwyta un! Da iawn Miss Jenkins!

Yn ystod y gwyliau Pasg rwyf wedi bod yn mwynhau amser gyda'r teulu allan yn yr ardd yn y tywydd hyfryd yma. Rydym wedi bod yn brysur yn golchi ein ceir yn ogystal â golchi fans Dad... Ie, llanastr enfawr! Tasg a hanner.

 

Mae'r pythefnos wedi hedfan, ond mae'r amser gyda'r teulu wedi bod yn werthfawr i mi. Ond fe wnes i gael damwain yn yr ardd gyda wal Mam !!surprise Fe wnes i dorri wal yn ardd Mam gan eistedd arno ac yna cwympodd y wal yn ôl ond gyda fi hefyd! Doedd Mam ddim yn hapus iawn gyda fi! Opps! Ond! Dad i'm hachub, wnaeth o ail adeiladu'r wal felly mae Mam yn hapus nawr. Lwcus bod Dad yn adeiladwr!

Beth rydych chi wedi bod yn gwneud gyda'ch amser? A ydych chi wedi bod allan am dro gyda'r teulu am eich awr o ffitrwydd? Mae Mam, Dad a fi wedi dechrau cerdded yn ddyddiol tua 5milltir y dydd. Yn debyg i beth rydych chi yn gwneud yn yr ysgol, Milltir y Dydd ond rydym ni yn lluosi'ch milltir chi gyda 5 i wneud 5 gwaith yn fwy! Sialens fach i'n teulu ni. A oes sialens gyda chi fel teulu?
 

Welcome back! Here we are ready to start a new week of learning.

 

I hope you have all enjoyed your Easter holidays and eating many Easter eggs. How many did you eat? Miss Jenkins didn't have one! Well done Miss Jenkins!

 

During my Easter holidays I have been enjoying my time with the family in the garden in this wonderful weather. We have been busy washing our cars, and also washing my Dad's work vans... Yes! Lots of mess. Job and a half.

 

The fortnight have flown, but the time with my family has been precious. During this time I managed to have an accident in the garden with my Mum's wall surprise!! I broke my Mum's wall by sitting on it and it fell over by taking me with it! Mam was not happy with me.. oops! But, I am very lucky that my Dad is a builder! He came to my rescue and fixed my Mum's wall and now she is happy with me again! 

 

What have you been doing with your time? Have you been out on daily exercise with your families? Me, Mam and Dad have set ourselves a challenge to walk 5 miles daily. This is similar to what we do in school, Milltir y Dydd but we have set out to do 5 times the distance than we do in school, we will be multiplying our Milltir y Dydd by 5 to do our 5 miles a day. A small challenge for our family. Do you have a challenge in your family?

 

Dyma'r difrod wnes i yn yr ardd/ Here is the damage I done in the garden... HAHA!

 

  

 

 

Hwyl am y tro!

 

 

03.03.2020

 

Wel dyma ni, Dydd Gwener yn barod! Mae'r wythnos yma wedi hedfan.

 

Hyfryd oedd gweld eich gwynebau ar Google Meet yr wythnos yma, trafod beth rydych wedi bod yn gwneud a gweld eich gwaith dors yr wythnos. 

 

Yn ystod yr wythnos rwyf wedi bod yn brysur yn gweithio ar gynllunio amryw o wahanol gweithgareddau i chi dros Pasg! Hwyl a Sbri! Rwyf wedi bod allan yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, rhoi tro ar cadw'n heini! A ydych chi wedi bod yn gwneud Ymarfer Corff wythnos yma? 

 

Wel am Gwener Gwych! Rwyf wedi mwynhau gweld eich lluniau o'ch tai gyda'r rubbings rydych wedi bod yn casglu dros yr wythnos. Hyfryd gweld eich bod yn gwneud y mwyaf o'r tywydd braf. Beth am codi ein calonnau a rhoi selfies doniol ar ein dudalen Facebook y dosbarth? I ni gyda cael chwerthin, fel yr ydym fel arfer yn gwneud yn rheolaidd yn ein dosbarth ni Cwrt Y Celyn! Beth am cadw'r traddodiad dosbarth i fynd!

 

Defnyddiwch eich amser ar Ddydd Gwener i ymlacio a gwneud gweithgareddau hwylus! Beth am...

- Chwarae allan yn yr ardd

- Coginio gyda'r teulu

- Mynd am dro gyda'r teulu

- Arlunio a lliwio

 

Mwynhewch eich amser!

 

Rwyf wedi bod yn brysur yn arlunio dros yr wythnos yma yn ystod y nosweithi! Dyma beth rwyf wedi bod yn gwneud. Ydych chi wedi bod yn creu lluniau hyfryd? Beth am ddangos rhannu eich lluniau.

 

 

30.03.2020

 

Bore da Cwrt Y Celyn!

 

Wythnos newydd gyda'r haul yn disgleirio ar fore Dydd Llun, Hyfryd!

 

Ydych chi wedi mwynhau eich penwythnos gyda'ch teulu? Beth wnaethoch chi wneud? Cofiwch i rannu eich dyddiaduron gyda ni!

Mae'r penwythnos wedi bod yn rhyfedd i mi, allan o strwythur a heb weld teulu na ffrindiau sydd yn anodd, ond yn holl bwysig ein bod yn aros adref yn ddiogel am y tro. Felly yn lle wnes i gadw'n brysur wrth wneud llawer o wahanol weithgareddau. Bues i yn gwneud cwis gyda'r rhieni ar nos Sadwrn. Dydw i ddim yn dda iawn mewn cwis, llwyddes i gael 3 allan o 10! Angen adolygu fi'n credu. 

Ar Ddydd Sul fe wnes i wneud jig-so gyda mam ar gyfer pen-blwydd fy nghefnder, rydym yn bwriadu rhoi ffrâm dros ben er mwyn rhoi ar y wal. Anrheg unigryw a phersonol. Ond roedd yna 1 darn ar goll! Doeddwn i ddim yn hapus ar ôl treulio'r amser yn rhoi at ei gilydd!

Yn ystod y nos fe wnes i ymlacio wrth liwio gyda phaned yn y lolfa.

 

Ond, nid dim ond gweithgareddau hyfryd rwyf wedi bod yn gwneud. Yn ystod yr wythnos diwethaf rwyf wedi bod yn brysur yn gwneud cyrsiau i wella'n ddatblygiad proffesiynol. Nid dim ond chi disgyblion sydd angen gwneud gwaith ar gyfer ddatblygu, mae'r ddatblygu yn parhau yn ystod bywyd. Bues i yn gwario prynhawn cyfan yn gwella ar amryw o wahanol sgiliau ar gyfer datblygiad proffesiynol pob dydd. 

 

Dyma'r lluniau o'r gweithgareddau dros y penwythnos! Ydych chi'n gallu gweld y darn sydd ar goll?

 

 

 

27.03.2020

 

Bore Da Cwrt Y Celyn!

 

A ydych chi gyd yn mwynhau'r tywydd braf yma? Digon i wneud yn yr awyr agored ac mae'n holl bwysig ein bod yn cymryd y cyfle i wneud!

 

Dros y ddau ddiwrnod diwethaf yr wyf wedi bod yn brysur wrthi yn cynllunio ar eich cyfer chi yn sicrhau fy mod yn defnyddio'r awyr agored gan fod y tywydd yn braf. Yn ystod yr amser yma rwyf wedi cynllunio amserlen ar gyfer Google Meet! Fe wnes i gael cyfarfod gyda Mrs Morris, Miss Perry a Miss Bloor bore ddoe gan drafod amryw o wahanol bethau. Roedd yn hyfryd gweld wynebau fy nghyd-weithwyr! Fe fydd cyfle gyda ni i gwrdd ar Google Meet yn wythnosol nawr i gadw mewn cysylltiad ac i gael sgwrs gyda'n gilydd!

Cofiwch i fewngofnodi i'ch Google Classrooms i weld unrhyw wybodaeth ddiweddar yr wyf wedi rhannu gyda chi!

Ddoe fe wnes i dacluso'r sied gyda Mam, dyna brofiad! Tynnodd Mam popeth allan o'r sied, roedd yna lanastr dros yr ardd i gyd! Roedd angen i mi fynd trwyddo focsys o ffeiliau gwaith fi ers ohonom ni yn yr ysgol uwchradd. 10 mlynedd o waith papur! Ond ar y cyfan fe wnes i fwynhau gwneud gweithgaredd allan yn yr haul gyda'r teulu.

 

Dyma'r llanastr!

​​​​​​

 

Disgwylaf ymlaen i'ch gweld ar Google Meet wythnos nesaf, cofiwch i wirio eich amser a fe fyddaf yn danfon gwahoddiad i chi yn yr amser yma!

 

Hwyl am y tro,

 

Miss Jenkins

 

 

 

25.03.2020

Bore da Cwrt Y Celyn!

 

Gobeithiaf eich bod chi gyd yn iawn ac yn cadw'n ddiogel yn eich tai. Mae'r amser yma yn rhyfedd iawn. Mae'n rhyfedd i mi ddim eich gweld yn ddyddiol, ond mae hi'n holl bwysig ein bod ni yn cadw at y rheolau a chadw'n ddiogel yn ein tai. A ydych chi gyd wedi bod yn mwynhau yn y tywydd braf yma? Dwi siŵr wedi bod yn gwneud y mwyaf o'r tywydd!

Dros y diwrnodau diwethaf yma yr wyf wedi bod allan yn yr ardd yn helpu mam gyda'r garddio! Ni gyd yn ymwybodol nad ydw i yn hoff iawn o wneud gweithgaredd budr. Golchi dwylo yn rheolaidd, yn fwy nag arfer! Yr wyf hefyd wedi bod yn brysur yn glanhau fy nillad yn y cwpwrdd dillad. 4 bag erbyn y diwedd! 15 pâr o jîns yn mynd i'r banc dillad! Fel yr ydych yn ymwybodol Cwrt Y Celyn nad wyf byth yn gwisgo jîns! Da iawn Miss Jenkins! Ydych chi wedi bod yn helpu o amgylch y tŷ neu dacluso eich ystafelloedd gwely?

 

Dyma nhw!

 

Echddoe wnes i olchi'r car yn yr haul ar awyr iach! Mae'r car yn edrych yn wyn unwaith eto, hwre!

 

Heddiw yr wyf wrthi yn cynllunio gwaith ar eich cyfer chi allan yn yr ardd ar y siglen gyda'r haul yn tywynnu arnaf. Braf i fod allan yn yr awyr agored. Beth ydych chi wedi bod yn gwneud? Cofiwch i rannu lluniau ar ein tudalen trydar neu gyda fi ar Google Drive.

 

Yn ystod yr wythnos nesaf cofiwch i fewngofnodi i'ch Google Drive i weld beth yr wyf wedi rhannu gyda chi!

 

Hwyl am nawr!

 

Miss Jenkins 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Grid gweithgareddau 11.05.20

Ymarferion Darllen

Ymarferion Sillafu 11.5.20

Read Write Inc

Edmunds' Family Album 1945 Challenge

Wythnos VE Week 4.5.20

Sing as We Go

Caneuon y cyfnod/World War 2 sing along

Grid Gweithgareddau 4.5.20

Cylchlythyr Dosbarth

Grid o weithgareddau 27.04.2020

Big Maths 27.04.2020

Gweithgareddau Ymarfer Corff/ Physical Education Activities

Gweithgareddau Pasg / Easter activties

Cystadleuaeth y Pasg, an Easter competition

English Phonics Practice

Gwaith Wythnos 30.03.2020

 

 

 

Pethau i’w Cofio

Ymarfer Corff - pob dydd Mercher (Bydd angen i blant ddod â chit chwaraeon i’r ysgol: llodrau / leggins du, crys-t gwyn a threiners).

Darllen - Angen dod a bag darllen i’r ysgol bob dydd.

Poteli dŵr - Rydyn ni’n annog y plant i ddod â photel plastig o ddŵr wedi’i lenwi i’r ysgol bob dydd (nid sudd neu sgwash, er mwyn atal pydredd dannedd).

Dillad Coll - A allwch sicrhau bod enw eich plentyn wedi’i hysgrifennu tu mewn i bob dilledyn.

Ffrwythau - plîs dewch â darn o ffrwyth, cig neu becyn iogwrt i’w fwyta amser chwarae neu 20c yn ddyddiol i brynu darn o ffrwyth yn ein siop ffrwythau.

Gwaith Cartref - Annogir pob plentyn i ddarllen yn rheolaidd. Yn achlysurol rhoddir darnau penodol o waith cartref megis; sillafu ychwanegol, ymarferion rhifedd neu brosiectau thematig.

 

Things to Remember

P.E - Every Wednesday - (pupils are asked to bring a P.E. kit to school so that they can change for lessons. Clothing and bags should be labelled; the bag should include a plain white t-shirt, black shorts/trousers and trainers).

Reading – Reading books must be returned every day.

Water bottles – children may bring water bottles to school (already filled). No other drinks are permitted, only water!!

Lost clothing – Please ensure that your child’s name is clearly marked on every item of clothing.

Fruit - We are a healthy school. Please provide your child with a healthy snack (no cereal bars) to eat at break times. A piece of fruit can be bought for 20p at our fruit tuck shop.
Homework - All pupils are expected to read regularly. Additional pieces of homework may be provided by the class teacher, for example; additional spelling, numeracy and literacy exercises and occasionally thematic projects. 

 

 

For regular photos and class activities follow us on twitter - @bachysgol

 

Tapas

Useful Websites to Support your childs' learning

Please also visit - 'Kids' Zone' for further website links.

Top